Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(44)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: y wybodaeth ddiweddaraf am Gyngor Sir Ynys Môn (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (30 munud) 

 

Dogfennau Ategol:

Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad blynyddol cyntaf

Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd

</AI4>

<AI5>

5. Dadl ar: Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth (60 munud) 

NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn trawsnewid perfformiad ysgolion, a

2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid.

Mae’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/circulars/practitioners/?skip=1&lang=cy

Mae’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn: http://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/2940/contents/made/Welsh

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn:

Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o ddysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.

Mae linc isod i adroddiad Estyn:

http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011/

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym Mhwynt 2: Dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod natur ddewisol y cymhwyster gradd Meistr yn golygu efallai na fydd anghenion hyfforddi’r holl athrawon newydd gymhwyso yn cael sylw llawn.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.

Gellir gweld y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth drwy fynd i:

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/circulars/mandatorynationalheadshipwales?skip=1&lang=cy

 

</AI5>

<AI6>

6. Dadl ar: Hwyluso’r Drefn – ffordd newydd o reoleiddio yn y Diwydiant Amaeth (60 munud) 

NDM4907 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi "Hwyluso’r Drefn – Adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes Ffermio”

Dogfennau Ategol:
"Hwyluso’r Drefn – adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes ffermio"
Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad Hwylusor Drefn

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileu ‘nodi’ a rhoi 'croesawu' yn ei le.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’n rheolaidd y wybodaeth ddiweddaraf am ei chynnydd at gyflawni pob un o’r 74 o argymhellion yn unol â’r amserlenni ym mharagraff 17.1 o’r Adroddiad.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod yr adroddiad yn cydnabod y “Dylid ystyried unrhyw beth yn llai na’r canlyniadau hyn yn fethiant oni bai bod polisïau wedi pennu bod canlyniad gwahanol yn ddymunol.”

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi barn yr adroddiad bod Glastir wedi cael ei “gyflwyno’n rhy gynnar ac yn frysiog cyn bod cyfle i ddatblygu manylion polisi’r rhaglen yn iawn mewn partneriaeth go iawn gyda rhanddeiliaid.”
 

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 8 Chwefror 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>